PET(4)-06-11 p6a

P-03-298 Cyllid ar gyfer darparu adnoddau Cymraeg ar gyfer pobl â dyslecsia yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ariannu Dyslecsia Cymru fel y gall y mudiad ddatblygu rhai o’r adnoddau a  argymhellir yn Adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu (Gorffennaf 2008 a’r adroddiad dilynol ym mis Hydref 2009) 'Cymorth i bobl â Dyslecsia yng Nghymru’, gan gynnwys prawf sgrinio Cymraeg, adnoddau pwrpasol a phriodol Cymraeg a hefyd cyllido costau llinell gymorth rhadffôn Dyslecsia Cymru.

 

Linc i’r ddeiseb:http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=897

 

Cynigwyd gan: Dyslecsia Cymru

 

Nifer y llofnodion:151

 

Gwybodaeth ategol:

Rydym wedi cysylltu a gwneud amryw o geisiadau i Lywodraeth Cynulliad Cymru am arian i’n galluogi i fynd ymlaen a’r gwaith o ddatblygu adnoddau a phrawf sgrinio yn y Gymraeg ond ymateb y Gweinidog yw nad oes yna gyllid ar gael i  ariannu hyn.

 

 Mae argymhelliad 8-yn yr adroddiad o Gorffennaf 2008 (a dderbyniwyd gan y Gweinidog) yn dweud: ‘Dylai profion sgrinio, asesu a chymorth fod ar gael yn Gymraeg ac yn y Saesneg mewn modd cyfartal ac y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael i ateb y galw.’

 

Dywed argymhelliad 2 (a derbyniwyd gan y Gweinidog): ‘Mae’r Pwyllgor yn argymell bod profion sgrinio ar gyfer dyslecsia ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg i bob plentyn ar ddechrau Blwyddyn 2 os yw’r athro neu’r athrawes yn nodi bod gan y plentyn hwnnw fwy o anawsterau darllen, sillafu neu ysgrifennu na’i gyfoedion. Wedi hyn, rhaid sicrhau cymorth ychwanegol ac ymyrraeth briodol ar gyfer y plant hynny y mae’r profion sgrinio’n dangos y gallent fod yn ddyslecsig erbyn diwedd tymor y Nadolig ym Mlwyddyn 2.’

Heb yr adnoddau Cymraeg, ni fedr ysgolion gario allan gofynion argymhelliad  rhif 2 uchod.

 

Mae argymhelliad 6 yr adroddiad dilynol a gyhoeddwyd fis Hydref 2009, yn dweud: ‘Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ariannu Prosiect Dyslecsia Cymru i gynnal llinell gymorth ddwyieithog am ddim i ddefnyddwyr yng Nghymru.’

 

Dylid nodi bod Jane Hutt AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar y pryd wedi dweud bod £2 filiwn ar gael yng Nghymru ar gyfer dyslecsia, gyda £118,000 o’r swm wedi ei neilltuo ar gyfer arolwg llenyddiaeth a diffinio dyslecsia.

Dywed Dyslecsia Cymru y dylai’r Llywodraeth gytuno rhoi grant i’r mudiad allan o’r swm hyn. Heblaw hyn--nid oes cydraddoldeb yn mynd i fod rhwng y ddarpariaeth sydd ar gael yn barod yn y Saesneg, a’r hyn sydd ei angen yn y Gymraeg.